top of page

Dawns Ieuenctid yn Cydweithio â Cherddor

Mae hysbys i bawb bod pobl ar hyd a lled y wlad, ac yn wir y byd, yn dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio trwy'r pandemig. Yn ôl y sôn, mae'n ymddangos bod gweithwyr yn sector y celfyddydau bellach yn cydweithio’n amlach, er mwyn elwa ar sgiliau a phrofiad ei gilydd ac i gynhyrchu rhagor o waith o well ansawdd mewn amgylchedd hynod heriol.

​

Dros y blynyddoedd, mae Eleni wedi cydweithio gyda nifer o unigolion a sefydliadau, gan ddysgu am y gwaith arbenigol maen nhw'n ei wneud, yn ogystal â rhannu ein profiad a'n hadnoddau â chyd-brosiectau llwyddiannus. Yn ystod tymor yr hydref 2020, penderfynwyd mentro ar hyd llwybr ychydig yn anarferol, gan gydweithio gyda cherddor yn hytrach nag unigolyn neu sefydliad dawns arall. Mae Gabriel Tranmer sydd wedi graddio mewn cerddoriaeth yn ddiweddar wrthi’n adeiladu ei bortffolio, ac mae wedi creu cyfansoddiad cerddorol pwrpasol i gyd-fynd â darn dawns a goreograffwyd ac a berfformiwyd gan Eleni NYDC, a arweinir gan yr Ymarferydd Dawns Hanna, gyda chefnogaeth gan yr Ymarferydd Dawns Rachel a fu’n arwain y cydweithrediad hwn ar y cyd.

​

Mae sesiynau'r Youth Dance Company wedi bod yn cael eu cynnal ar-lein ers dechrau'r haf am resymau amlwg. Rydym yn gwybod nad yw hyn yr un peth â dawnsio gyda'n gilydd yn yr un lleoliad ffisegol, ond gobeithio ei fod wedi cynnig cyfrwng gwerthfawr gan ddal i roi cyfle i gyfranogwyr fod yn greadigol gydag eraill o’r un anian. Yn ystod y sesiynau a gynhaliwyd yn ystod tymor yr hydref 2020, datblygodd y cyfranogwyr eu darn dawns greadigol eu hunain, dan arweiniad Hanna, a chyfansoddodd Gabriel y cyfeiliant, wedi'i deilwra'n arbennig. Yna cyfunwyd dwy elfen y prosiect i gynhyrchu perfformiad cwbl newydd, unigryw!

​

Y syniad y tu ôl i'r prosiect hwn oedd rhoi cyfle i'r Youth Dance Company weithio tuag at nod cyffredin, er nad oedd yn bosibl iddynt gyfarfod wyneb yn wyneb, ac ychwanegu haen ychwanegol drwy gyfrwng y gerddoriaeth wreiddiol. Yn ôl Hanna, yr Ymarferydd Dawns,  mae’r holl gyfranogwyr wedi mwynhau'r cyfle i gyfrannu at y math newydd hwn o brosiect a pherfformio'r darn gorffenedig i'w teuluoedd.

​

O ystyried llwyddiant y dull hwn, mae’n bosibl y bydd Eleni yn cynllunio mwy o brosiectau ar-lein fel hyn yn y dyfodol, hyd yn oed pan fydd modd i lawer o bobl fod yn yr un ystafell unwaith eto - mae'n fath arall o berfformiad i'w ychwanegu at ein perfformiadau!

bottom of page