top of page

Eleni & Coronavirus - Diweddariad

Reaching Out to the Sun

Rydym bellach yn ein deuddegfed wythnos o gyfyngiadau ac, er bod rhai ohonynt wedi eu llacio ychydig, rydym yn dal i fyw’r bywyd newydd hwn o weithio o gartref a chadw dwy fetr oddi wrth ein gilydd. Gobeithiwn fod pawb ohonoch yn cadw’n iach a phrysur, ac yn mwynhau rhywfaint o’r heulwen sydd fel pe bai’n gwenu arnom yn amlach o hyd!

Cipolwg cyffredinol o ymateb cychwynnol Eleni i sefyllfa’r coronafeirws oedd ein blog cyntaf, ac ers hynny, mae tîm Eleni wedi bod yn cynnig gwahanol ddulliau o aros yn greadigol ac addasu i’r ffordd newydd hon o weithio. Rydym wedi bod yn cadw cysylltiad gyda’n gilydd trwy negeseuon e-bost a galwadau llais a fideo, yn ogystal â gyda sefydliadau dawns a chelfyddydau eraill, sydd yn yr un sefyllfa anffodus nas gwelwyd o’r blaen. Rydym yn ystyried beth allwn ni ei wneud i geisio parhau i gyflwyno dawns i’n cymuned, er gwaethaf ein hanallu i gyfarfod yn bersonol. Yn ogystal â ffurfio cynllun tymor byr, bydd hyn yn ymwneud ag ystyried sut y gallwn integreiddio’r dull newydd hwn o weithredu yn fwy hirdymor, gan ei bod yn ymddangos y byddwn o dan ryw fath o gyfyngiadau o leiaf am y dyfodol rhagweladwy.

Person Checking the Phone
Senior Dance

Ond nid gwae a diflastod yw’r cyfan! Er y gwyddom mai dewis llawer ohonoch fyddai dawnsio gyda’ch gilydd gyda phobl eraill, rydym wedi clywed straeon anecdotaidd am agweddau cadarnhaol o wneud pethau ar-lein – gall fod yn well gan rai pobl gymryd rhan yng nghysur eu cartrefi eu hunain neu mewn amgylchedd cyfarwydd arall, tra nad yw’r rheini sydd ag anawsterau symud yn gorfod teithio i gymryd rhan mewn ymarfer corff sydd wedi ei deilwra ar gyfer eu hanghenion. A pheidiwn ag anghofio’r effaith cadarnhaol ar yr amgylchedd! Er y gall rhai ohonom gerdded neu fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus i’n dosbarthiadau, does dim dewis heblaw cymryd y car gan rai pobl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae peidio â theithio yn golygu mantais ariannol hefyd i lawer!

Roedd un o’n negeseuon diweddar ar gyfryngau cymdeithasol yn ddyfyniad a oedd yn teimlo’n neilltuol o addas ar gyfer yr adegau anodd hyn: “Dawnsiwch, hyd yn oed os nad oes gennych unlle i wneud hynny ond eich ystafell fyw” (Mary Schmich). Heb fod yn gallu dod at ein gilydd mewn grwpiau, a theatrau, neuaddau eglwys a chanolfannau cymunedol wedi cau, dawnsio yn ein cartrefi a’n gerddi ein hunain yw’r peth arferol newydd i’w wneud. Gyda hyn mewn cof, rydym yn treialu tri dosbarth ar-lein trwy Zoom – dosbarth Symudiad Oedolion (fersiwn ar-lein o’n dosbarthiadau Symudwyr arferol), dosbarth Zumba® Gold, a dosbarth Dawns Ieuenctid. Yn sgil natur rhithwir y dosbarthiadau hyn, gallwch ymuno yn y dosbarthiadau hyn o unrhyw le!. Bydd y dosbarth Symudiad Oedolion ar ddydd Mercher am 9:45am, bydd y dosbarth Zumba® Gold ar ddydd Iau am 10am, a bydd y dosbarth Dawns Ieuenctid ar ddydd Llun am 4pm. Bydd y rhain yn rhedeg tan yr wythnos yn cychwyn 15 Mehefin ar y cychwyn, fel y gallwn farnu graddau diddordeb a llwyddiant. Os yw popeth yn mynd yn dda, byddwn yn debygol iawn o ymestyn y cyfnod hwn. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch info@newdance.org.uk, anfonwch neges atom ar Facebook, neu ffoniwch 07399 642853 i gysylltu â thiwtor dawns y grŵp perthnasol.

Computer Screen Closeup
Man Typing on a Laptop
iphone

Roedd byw o dan y cyfyngiadau hyn yn sefyllfa nad oedd neb ohonom wedi ei rhagweld, ond rhaid inni wneud y gorau ohoni! Gobeithiwn y bydd y dosbarthiadau ar-lein hyn yn rhoi cyfle i rai ohonoch o leiaf i ddawnsio, chwerthin, ac aros yn gadarnhaol. Os oes gennych chi unrhyw adborth o gwbl inni, mae croeso ichi gysylltu â ni – mi fydden ni wrth ein bodd o glywed oddi wrthych!

​

Gyda’n dymuniadau gorau i chi a’ch anwyliaid,

Tîm Eleni.

bottom of page