top of page

​

Mae Eleni yn elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig drwy warant. Cafodd y cwmni ei ffurfio ym 1998 fel Dawns Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru yn wreiddiol. Yn 2002 daeth yn gwmni cyfyngedig (Dawns Gogledd-ddwyrain Cymru) ac fe symudodd i Bafiliwn Llangollen yn Sir Ddinbych. Ym mis Medi 2009, cafodd y Cwmni ei ail-frandio a’i ail-enwi’n Eleni Ym mis Hydref 2019, fe symudodd Eleni i Ganolfan Hamdden Deeside yn Queensferry.

​

Mae Eleni yn fudiad wedi’i hariannu gan Ganolfan Celfyddydau Cymru sy’n gyfrifol am gynnig cyfleoedd i bobl o bob oed a gallu gan ddatblygu safonau darpariaethau dysgu a chydweithio gyda chymunedau ledled rhanbarthau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn ymwneud ag ystod o weithgareddau dawns.

​

Caiff polisi celfyddydol Eleni ei ddylanwadu’n gryf gan strategaethau addysgiadol a chymdeithasol yr awdurdodau lleol. Hefyd mae’n cydymffurfio gyda blaenoriaethau ariannu ACW sef cefnogi ac annog creu celfyddydau o safon, boed yn amatur neu broffesiynol ac annog mwy o bobl i fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau.  

​

Cenhadaeth Eleni ydy i feithrin yr unigolyn, rhoi hwb gadarnhaol lles cymdeithasol a diwylliannol cymunedau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru drwy ddawnsio, hyrwyddo arbenigedd celfyddydol ac arloesedd gyda’u gwaith yn ymwneud â’r gymuned, addysg, iechyd, cyfiawnder troseddol a lleoliadau gofal iechyd.

​

Ymysg gweithgareddau Eleni mae ystod o ddosbarthiadau a gweithdai yn ymwneud ag amrywiaeth o arddulliau dawns ynghyd â phrosiectau wedi’u targedu ar gyfer pobl o bob oed a gallu mewn cymunedau a lleoliadau iechyd, cyfiawnder troseddol a gofal cymdeithasol. Ymysg amcanion NEW Dance mae gofalu caiff y gymuned fanteisio ar y celfyddydau a denu cynulleidfa ehangach i ymddiddori mewn dawnsio, creu a chomisiynu gwaith dawns newydd, hyfforddi athrawon a gweithwyr proffesiynol y byd dawns a defnyddio dawns fel adnodd i gynnig buddion diwylliannol, moesol a chymdeithasol.  

​

Caiff gweithgareddau Eleni eu cynnal o arfordir Gogledd Sir y Fflint hyd at fannau poblog dros ben yn Wrecsam a mannau cefn gwlad Sir Ddinbych. Caiff gweithdai Eleni eu cynnal mewn trefi amrywiol fel y Rhyl, Llangollen, Fflint a’r Wyddgrug, mewn pentrefi cefn gwlad fel Llanfair Dyffryn Clwyd, a hefyd mannau difreintiedig yn socio-economaidd sydd wedi’u cydnabod yn ystadegau’r Llywodraeth.

​

Mae’r cwmni yn manteisio ar gydraddoldeb ac amrywioldeb yn eu cyfres o weithgareddau ac maen nhw’n cydweithio gyda (ymysg nifer o wahanol fathau o grwpiau) pobl ifanc sydd yn anodd cysylltu gyda nhw, plant ac oedolion gydag anghenion arbennig, pobl hÅ·n, dawnswyr ifanc sy’n fwy datblygedig yn dechnegol a fydd o bosib yn mynd rhagddi i fanteisio ar hyfforddiant proffesiynol, ynghyd â grwpiau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

​

Bu i Eleni ennill enw da am eu harbenigedd a buon nhw’n llwyddiannus dros ben yn annog pobl o bob oed a gallu i fynd ati i ddawnsio, gan gynnig cyfle i unigolion sy’n dawnsio i berfformio ar y cyd â chwmnïau dawns proffesiynol a sefydlu a datblygu cynulleidfa dawns ledled Gogledd Ddwyrain Cymru.

​

bottom of page